Engilsh Content

Am Edwina

Ganed Edwina Hart yn 1957 ac fe'i magwyd yn Nhregŵyr ger Abertawe, lle mae'n dal i fyw gyda'i gŵr Robert a'i merch Estelle. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gramadeg Merched Gowerton, lle cymerodd ddiddordeb brwd mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth ac roedd yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. 

Mae Edwina wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur am fwy o flynyddoedd nag y mae yn gofalu i gofio. 

Mae gan Edwina gysylltiadau cryf ar draws y mudiad Llafur. Cyn dod yn AC, fe fuodd hi yn weithgar yn y mudiad Undebau Llafur, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ystod y cyfnod hwn, hi oedd y llywydd benywaidd cyntaf yr undeb bancio BIFU (bellach yn rhan o Unite, ac aeth ymlaen i fod yn gadeirydd ar TUC Cymru. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o Gyngor Darlledu Cymru, fel aelod o fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru, y Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth a Fforwm Economaidd Gorllewin De Cymru. Roedd yn gyfarwyddwr anweithredol o 'Chwarae Teg', sefydliad sy'n hyrwyddo rôl menywod yn y gweithle. Fe wnaeth hi dderbyn MBE yn 1998 am ei gwasanaeth i'r undebau llafur. 

Mae gan Edwina brofiad helaeth o fewn y llywodraeth ac mae ganddi record gref o ddarparu, wedi gwasanaethu fel aelod o Gabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru ers sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru gan y llywodraeth Lafur ym 1999. 

Ar ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel Aelod Cynulliad ar gyfer y Gŵyr ym mis Mai 1999, cafodd ei phenodi'n Ysgrifennydd Cyllid gan y Prif Ysgrifennydd ar y pryd, Alun Michael AC. Yn ystod ei amser yn y rôl Cyllid, cafodd ganmoliaeth eang am y modd wnaeth thrin a materion dadleuol o gwmpas yr adeiladu ac ariannu cartref newydd y Cynulliad Cenedlaethol, y Senedd, ym Mae Caerdydd. 

Yn dilyn penodiad Rhodri Morgan fel Prif Weinidog ym mis Chwefror 2000, gafodd Edwina ei phenodi'n Weinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Yn y rôl hon, fe roedd hi'n parhau i fod yn gyfrifol am gyllid Llywodraeth y Cynulliad, ac yn derbyn y cyfrifoldeb ar gyfer llywodraeth leol. 

Yn 2003, fe'i penodwyd yn Weinidog cyntaf Llywodraeth y Cynulliad dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, lle llwyddodd Edwina ddatganoli cyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Tân o Lywodraeth San Steffan i Lywodraeth y Cynulliad. 

Yn 2007, cafodd Edwina eu penodi'n Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cadw cyfrifoldeb am gysylltu â'r lluoedd arfog yng Nghymru ac ar gyfer materion hen filwyr. Mae hi hefyd yn cynorthwyo'r Prif Weinidog Cymru ar faterion gwydnwch. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae Edwina wedi llywio drwy'r diwygiadau i'r GIG yng Nghymru, gan gynnwys diddymu'r farchnad fewnol o fewn GIG Cymru.

join us on Facebook
A group for supporters of
Edwina's campaign

Get Involved

E-mail your messages and videos
for Edwina's campaign to
getinvolved@edwina4labour.com

I Hart Labour