Llais cryf i Gymru gref
Gan fy mod yn siŵr eich bod yn gwybod, mae Rhodri Morgan wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol fel Arweinydd Llafur a Phrif Weinidog Cymru yn y Cynulliad. Gadewch i mi ddechrau drwy roi ar gofnod y ddyled o ddiolchgarwch ydym i gyd yn ddyledus iddo, ar gyfer yr arweinyddiaeth ragorol mae wedi darparu dros y deng mlynedd diwethaf, mewn amseroedd da, ac ar adegau o anhawster.
Hoffwn gymryd ennyd o'ch amser fel eich bod yn gwybod fy mod wedi penderfynu sefyll am Arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn fy mywyd, y Gŵyr a'r Blaid Lafur, fel llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, bob amser wedi bod yn gaeth at ei gilydd. Mae'r etholaeth yn faromedr o gymdeithas Cymru, gan ei gymunedau trefol, i ffermio a thwristiaeth, i’r gwregys gymudwyr. Rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes ac yn gwybod, o lygad y ffynnon, y pwysigrwydd o gysylltu â phryderon y cymunedau lleol gyda rhai o'r Mudiad Llafur ehangach. Cefais fy magu mewn teulu lle'r oedd wleidyddiaeth ymarferol yn rhan o fywyd bob dydd, trwy'r undebau llafur ac mewn cynghorau lleol.
Roedd y profiad hynna wedi dysgu mi, o amser cynnar, fod sefyll lan dros bobl sy'n gweithio yn cymryd penderfyniadau cadarn. Dyw datblygiadau ar gyfer achosion cynyddol erioed wedi cael ei wneud heb frwydr, gan gynnwys datganoli ei hun. Pan gaeth fy mam ei geni, doedd menywod yng Nghymru erioed wedi cael y bleidlais. Nawr, llai na chanrif yn ddiweddarach, rwy'n ymgeisydd i fod y ferch gyntaf i arwain ein Plaid yng Nghymru. Fysai hwn i gyd ddim wedi digwydd heb y mudiad Llafur ac rwy'n falch o'r rhan rwyf wedi gallu chwarae, fel Llywydd y TUC Cymru ac fel y Gweinidog yn llywodraethau Rhodri Morgan yng Nghynulliad Cymru dros y deng mlynedd diwethaf.
Fel y Gweinidog Gyllid, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chyfiawnder Cymdeithasol, a nawr fel y Gweinidog dros Iechyd, rwyf wedi gweithio'n galed i roi ar waith yr egwyddorion a oedd yn dod a bob un ohonom ni mewn i wleidyddiaeth - creu economi gref a chymdeithas fwy cyfartal, yn benderfynol o ddiogelu a hyrwyddo ein gwasanaethau cyhoeddus, datblygu partneriaeth gymdeithasol newydd rhwng y dinesydd a'r gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu.
Rwy'n credu y gallai gynnig y cyfuniad o brofiad a phenderfyniad i helpu i ailgysylltu ein Plaid gyda'i gefnogwyr ehangach ac i ennill mwyafrif i Lafur yn yr etholiadau nesaf y Cynulliad.
Gyda'ch cefnogaeth chi y gallaf roi llais cryf i Gymru, gan roi arweinyddiaeth gref sydd angen ar ei’n blaid - arweinydd ar gyfer Cymru gyfan.
