Welsh Content
<< back

Our News

Teyrnged Edwina i Rhodri Morgan

 Mae Rhodri wedi bod yn arweinydd gwych i Lafur Cymru dros y degawd diwethaf. Mae cyfraniad Rhodri i fywyd Cymru dros y cyfnod hwn - ac yn wir am nifer o flynyddoedd cyn hynny - yn amhosib crynhoi mewn ychydig o eiriau. Ni allaf feddwl am unrhyw wleidydd arall sy'n symbol o bopeth sy'n dda yn ein gwlad yn y modd y mae'n ei wneud. Mae ei allu i siarad ag unigolion ac i'r genedl gyfan ar yr un pryd am faterion sy'n bwysig iawn iddynt wedi cael cymorth gan ei wybodaeth anferth am y wlad ei hun. Mae ei afael ar bynciau cymhleth fel economeg a diwylliant Cymru bob amser wedi mynd law yn llaw â'i brwdfrydedd gwirioneddol ar gyfer buddiannau mwy poblogaidd megis chwaraeon a hamdden. Fel gweinidog a oedd yn gweithio o dan ef mewn nifer o wahanol rolau gallaf ddweud yn onest ei fod wedi creu Cymru newydd, sy'n fwy hunan-hyderus. Doedd e byth yn gadael y syniad bod Cymru yn wlad ofalgar gyda'i set o werthoedd cymdeithasol eu hun. Fe wnaeth osod y sylfeini ar gyfer dyfodol gwych ac rwy'n credu y dylem i gyd, gwleidyddion a phobol tu allan i wleidyddiaeth fel ei gilydd, weithio'n ddiflino i gwblhau ei weledigaeth yn awr ei fod wedi penderfynu eithrio ymddeoliad haeddiannol.

1 October 2009

join us on Facebook
A group for supporters of
Edwina's campaign

Get Involved

E-mail your messages and videos
for Edwina's campaign to
getinvolved@edwina4labour.com

I Hart Labour