Welsh Content
<< back

Our News

JANE HUTT YN CEFNOGI EDWINA HART AM ARWEINYDDIAETH LLAFUR CYMRU

Mae’r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, wedi rhoi ei chefnogaeth y tu ôl Edwina Hart yn y gystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd y Gweinidog dros Iechyd yn derbyn 10 o enwebiadau oddi wrth y grŵp Llafur yn y Cynulliad, ffigwr ni all y ddau ymgeisydd arall cyrraedd. 

Roedd Jane Hutt, Andrew Davies a Rosemary Butler yn gydweithwyr efo Edwina Hart yn cabinet gwreiddiol y Cynulliad yn 1999.
Ar glywed y newyddion, dywedodd Edwina Hart ei bod yn falch dros ben o gael Jane Hutt yn rhan o’r ymgyrch.
"Rwyf i a Jane wedi gweithio'n agos dros y ddeng mlynedd diwethaf, ac mae hi'n cael ei eu parchu fel gweinidog sy’n ymroddedig ac sy'n gweithio'n galed tu mewn a thu allan i'r blaid. Mae ganddi swm aruthrol o brofiad mewn llywodraeth - yw’r union fath o berson yr ydw i eisiau i ’nghefnogi i. Mae ei pharodrwydd i hyrwyddo hawliau menywod yn rhywbeth sydd gennym yn gyffredin.
"Mae ei phenderfyniad i enwebu mi yn golygu fod fy ymgyrch wedi derbyn hwb mawr. Os yr wyf yn ennill yr etholiad i wasanaethu fel Prif Weinidog bydd yn gysur gwybod bod cymaint o gyd-ACau Llafur eisoes wedi dangos ffydd ynof.
"Ar ddiwedd yr wythnos gyntaf o ymgyrchu rwy'n credu ein bod yn gweld cynnydd mawr clir o gefnogaeth, ac mae hynna yn galonogol iawn, ar ôl dod i mewn i’r gystadleuaeth yn weddol hwyr."

12 October 2009

join us on Facebook
A group for supporters of
Edwina's campaign

Get Involved

E-mail your messages and videos
for Edwina's campaign to
getinvolved@edwina4labour.com

I Hart Labour