Welsh Content
<< back

Our News

Edwina Hart yn lansio’ Ymgyrch a’i Maniffesto i Gymru

Mi fydd Edwina Hart yn lansio’ ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn swyddogol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am 1yp, Iau Hydref 15fed.
Mi fydd hi’n cyhoeddi eu maniffesto personol a fydd yn amlinellu eu hymrwymiadau i draddodiad ‘dwr clir coach’ sosialaidd Cymru a’i chynlluniau i gwblhau'r rhaglen llywodraethu pedair blynedd fe wnaeth y Blaid Llafur gytuno yn 2007. Mi fydd hi hefyd yn siarad am eu cynlluniau er mwyn datblygi ddatganoli dros y deng mlynedd nesa. Mi fydd yn amlinellu'r mesurau penodol, weithiau radical yn delio efo gwelliannau i weinyddiaeth lywodraethol,
y cyflenwad o Wasanaethau Cyhoeddus, cyflogaeth, tlodi plant, newid hinsawdd, yr iaith Gymraeg, y glymblaid yng Nghaerdydd a’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan
Mi fydd hefyd yn esbonio'r rhesymau personol pam mae eisiau arwain Llywodraeth y Cynulliad. Mewn neges i etholwyd, mae’n dweud:
"Pan gafodd fy mam ei geni, nid oedd menywod yng Nghymru erioed wedi cael y bleidlais. Nawr, mewn llai na chanrif yn ddiweddarach, rwy'n ymgeisydd i fod y ferch gyntaf i arwain ein plaid. Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb y mudiad Llafur, ac rwy’n falch o’r rhan rwy wedi chwarae, fel Cadeirydd TUC Cymru ac fel Gweinidog yn Llywodraethau mae Rhodri Morgan wedi arwain dros y deng mlynedd diwethaf."
Mi fydd hefyd yn pwysleisio’u rhinweddau personol. Yn eu neges am y deng mlynedd mae wedi gweithio fel Gweinidog, mae’n pwysleisio eu parodrwydd i dynnu eu llewys i fynnu ac i wneud y gwaith sydd angen.
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy wedi bod yn gyfrifol am gyllid, llywodraeth leol, cyfiawnder cymdeithasol a, am y ddwy flynedd a hanner diwethaf, y portffolio mwyaf - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda record o weithredu polisïau’r Blaid Lafur. Yn y broses honno, rwy wedi dysgu fod eisiau arweinyddiaeth a phenderfyniad gwleidyddol i wneud i'r beirianwaith llywodraethol weithio i weithredu agendâu blaengar."

18 October 2009

join us on Facebook
A group for supporters of
Edwina's campaign

Get Involved

E-mail your messages and videos
for Edwina's campaign to
getinvolved@edwina4labour.com

I Hart Labour