<< back
Our News
Undeb yn cefnogi Edwina i Gyfuno Cymru
Fe wnaeth undeb llafur fwya’ Cymru ddatgan eu cefnogaeth i Edwina Hart heddiw fel arweinydd nesa Llafur Cymru a Phrif Weinidog.
Mae’r ras am yr arweinyddiaeth rhwng Huw Lewis, Carwyn Jones a Edwina Hart wedi bod yn fwrlwm dros y dyddiau diwetha gyda newyddion bod y tri ymgeisydd am wynebu cyfweliad llym gyda chynrychiolwyr o’r undeb ‘Unite’ o bob rhan o Gymru heddiw.
Wedi iddi dderbyn ardystiad am eu llorweddiadau arweinyddol gan yr Undeb Unite, dywedodd Edwina Hart:
"Mi roedd y cyfweliad yn un caled, agored ond yn un teg iawn gydag aelodau’r undeb, ac rwy’n bles iawn ei bod nhw wedi gwrando ar fy ngweledigaeth i’r Blaid Lafur ac i Gymru a'u bod nhw’n credu mai fi yw’r ymgeisydd gorau i gyflenwi dros undebwyr llafur, i’r Blaid Lafur ac i Gymru."
Ychwanegodd Mrs Hart:
"Rwy wedi gweithio’n agos gydag aelodau’r undeb Unite dros y blynyddoedd fel Gweinidog ac fel undebwr llafur fy hun, ac rwyn falch iawn am y bleidlais o hyder y maent wedi rhoi i mi. Fe wnes i addo ‘Unite’ fe fyddai’n llais cryf i Gymru, a byddaf yn cyflwyno ar yr addewid hynna."
Fel undebwr llafur ail-genhedlaeth, mae Edwina yn aelod oes o'r mudiad undebau ac mi wnaeth ddod i’r amlygrwydd fel y llywydd benywaidd cyntaf yr undeb bancio BIFU (bellach yn rhan o Unite, ac aeth ymlaen i fod yn gadeirydd ar TUC Cymru yn ystod y blynyddoedd o lywodraeth Geidwadol. Mae cefnogaeth Unite a'i aelodau yn rhoi ymgyrch Mrs Hart ar flaen y gad yn y ras arweinyddiaeth.
18 October 2009

