<< back
Our News
Cefnogaeth enfawr gan Lafur yn Llywodraeth Leol i ymgyrch Edwina Hart
Mae’r Cynghorydd Russell Roberts, Arweinydd y Cyngor mwyaf sy’ dan arweinyddiaeth Lafur, Dirprwy Arweinydd y CLlLC ac yn Arweinydd y Grŵp Llafur y CLlLC wedi rhoi eu cefnogaeth y tu ôl i ymgyrch Edwina Hart I olynu Rhodri Morgan fel Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ac fel Prif Weinidog.
Dywedodd Y Cyng. Russell Roberts, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"I mi, Edwina yw’r unig ddewis i arwain Cymru a’r Blaid Lafur yng Nghymru.
"Hi yw’r unig ymgeisydd sydd â phrofiad o rôl sylweddol, gan eu bod wedi cynnal rhai o’r swyddi mwyaf yn Llywodraeth y Cynulliad ers 1999.
"I mi, Edwina yw’r unig ymgeisydd sydd ar allu i fynegi’r gallu i arwain newid ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.
"Mae e’i gwaith gyda’r undebau llafur dros y blynyddoedd yn dangos yn glir y priodoleddau sosialaidd sydd ganddi uwch ben yr ymgeiswyr eraill.
"Mae wedi darparu newidiadau pendant, ystyrlon i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac yn fy amser fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwm Taf, fe wnaeth hi yrru trwy’r dileadau i’r farchnad fewnol a’r ad-drefnu o’r Ymddiriedolaethau a’r Byrddau Iechyd Lleol. Does dim un ymgeisydd arall yn medru cyfeirio at fath llwyddiant.
"Mi fydd Edwina yn darparu llais cryf I Gymru ac i lywodraeth leol. Yn ei amser fel Gweinidog, yn enwedig pan roedd hi’n gyfrifol am Lywodraeth leol, fe wnaeth Edwina cydnabod anghenion cymunedau’r cymoedd a’r berfeddwlad Llafur. Mae hi’n berson sy’n darparu ac
"Rwy’n annog bob Cynghorydd Llafur yng Nghymru I gefnogi ymgyrch Edwina Hart, oherwydd fydd hwn yn sicrhau dyfodol a llais cryf i’r gwasanaethau cyhoeddus pwysig y mae cynghorau lleol yn eu darpari."
Mae ymgyrch Edwina Hart i olynu Rhodri, hyd yn oed yn y pwynt cynnar yma yn yr ymgyrch, wedi denu cefnogaeth pedwar aelod arall o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef mwyafrif o’r Cabinet, sy’n cynnwys Rheolwr Busnes y Cyngor, Cyng. Clayton Willis (Tynant), yr Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyng. Eudine Hanagan (Gorllewin Tonyrefail), yr Aelod y Cabinet dros Cymunedau, Y Cyng. John David (Tonteg) a’r Aelod y Cabinet dros datblygu’r Economi, Y Cyng. Paul Cannon (Ystrad).
19 October 2009

