Engilsh Content

Ei'n Ymgyrch

Mae Edwina wedi lansio’i ymgyrch i fod yn Arweinydd dros y Blaid Lafur yng Nghymru gan gyhoeddi maniffesto ystod eang.

Mae Edwina nawr wedi cyhoeddi eu maniffesto personol sy’n amlinelli eu hymrwymiad i’r traddodiad ‘dwr clir coch’ sosialaeth Cymraeg ar y cyd efo’i chynlluniau i gwblhau’r rhaglen llywodraethu pedair blynedd fe wnaeth y Blaid Llafur gytuno yn 2007.

Mae’r maniffesto yn amlinellu'r mesurau penodol, weithiau radical yn delio efo gwelliannau i weinyddiaeth lywodraethol, y cyflenwad o Wasanaethau Cyhoeddus, cyflogaeth, tlodi plant, newid hinsawdd, yr iaith Gymraeg, y glymblaid yng Nghaerdydd a’r berthynas rhwng Cymru a San Steffan.

Mae hefyd yn esbonio'r rhesymau personol pam mae eisiau arwain Llywodraeth y Cynulliad. Mewn neges i etholwyd, mae’n dweud:

"Pan gafodd fy mam ei geni, nid oedd menywod yng Nghymru erioed wedi cael y bleidlais. Nawr, mewn llai na chanrif yn ddiweddarach, rwy'n ymgeisydd i fod y ferch gyntaf i arwain ein plaid. Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb y mudiad Llafur, ac rwy’n falch o’r rhan rwy wedi chwarae, fel Cadeirydd TUC Cymru ac fel Gweinidog yn Llywodraethau mae Rhodri Morgan wedi arwain dros y deng mlynedd diwethaf."

Mi fydd hefyd yn pwysleisio’u rhinweddau personol. Yn eu neges am y deng mlynedd mae wedi gweithio fel Gweinidog, mae’n pwysleisio eu parodrwydd i dynnu eu llewys i fynnu ac i wneud y gwaith sydd angen.
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, rwy wedi bod yn gyfrifol am gyllid, llywodraeth leol, cyfiawnder cymdeithasol a, am y ddwy flynedd a hanner diwethaf, y portffolio mwyaf - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda record o weithredu polisïau’r Blaid Lafur. Yn y broses honno, rwy wedi dysgu fod eisiau arweinyddiaeth a phenderfyniad gwleidyddol i wneud i'r peirianwaith llywodraethol weithio i weithredu agendâu blaengar."

Gallwch draswslwytho’r maniffesto yn gyfan o’r adran ‘Deunydd yn Ymgyrch’ o’r tudalen ‘Cymerwch ran’ ar y wefan hon gan glicio ar yr eicon ar y dudalen hon.
Yn eu maniffesto, sy’n cyfuno’r personal efo’r gwleidyddol, mae Edwina yn amlinellu gweledigaeth glir:

Mae hwn yn cynnwys:

  • Cefnogi fwy o bwerau i’r Cynulliad yn dilyn ymgyrch refferendwm llwyddiannus
  • Taclo tlodi plant a diweithdra ymhlith pobol ifanc drwy strategaethau gwell.
  • Ymsefydlu Banc y Bobol i wneud yn siŵr fod gan bobol, grwpiau a mentrau mynediad i gyllid
  • Esbonio pam na fedrwn fforddio “cenhedlaeth ar goll” eto
  • Datblygu’r gwaith y Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd 
  • Adfywio’ Blaid Lafur yng Nghymru o’r top i’r gwaelod
  • Gweithio’n galed i Lafur yn yr etholiad Cyffredinol nesa ac i sicrhau mwyafrif yn etholiadau’r Cynulliad nesa.

 

join us on Facebook
A group for supporters of
Edwina's campaign

Get Involved

E-mail your messages and videos
for Edwina's campaign to
getinvolved@edwina4labour.com

I Hart Labour